Aelodau o'r tîm wedi cymryd rhan yn y "Walk to D’feet MND" yn Llandudno Dydd Sadwrn i godi ymwybyddiaeth ac arian i Glefyd Motor Niwron.
Am fwy o wybodaeth, gwelwch www.mndnorthwestwales.org.
Rydym yn dathlu penblwydd Delwedd yn 24 heddiw!
Diolch am yr adolygiad Cymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd
"Cydweithiodd Cymdeithas Hanes Teulu Gwynedd gyda Delwedd i ddylunio, datblygu a chreu ein gwefan gwbl ddwyieithog newydd. Gweithiodd Aled a'r tîm yn glos gyda ni i ddatblygu ein briff a darparwyd cyngor a chefnogaeth ddefnyddiol i gyflawni canlyniad rhagorol. Mae adborth gan yr aelodau wedi bod yn gadarnhaol iawn ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda Delwedd yn y dyfodol."
Dydd Gwener y Groglith - Ar gau
Dydd Llun y Pasg - Ar gau
Diolch am yr adolygiad Cyngor Tref Caernarfon
“Roedd y broses o greu gwefan gyda cwmni Delwedd yn bleser. Roedd eu harbennigedd a'u hymrwymiad i wireddu ein gwefan delfrydol yn arbennig. Rydym yn falch iawn o'r gwefan gorffenedig, mae'n glir, dwyieithog ac yn ei gwneud hi'n hawdd i ni gydymffurfio efo'r holl ofynion cyfreithiol sydd ar Gynghorau Tref a Chymuned i gyhoeddi dogfennau a sicrhau trylowyder y broses ddemocrataidd.”
Roeddem yn hapus i noddi gwefan a thaflen ddigidol ar gyfer Gig Cymru Wcráin.
Ewch i'r wefan am fwy o wybodaeth neu i archebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad gwych hwn: www.cymru-wcrain.cymru
Dydd Gwyl Dewi Hapus!
Ar Ddydd Gŵyl Dewi fel bob dydd arall, rydym yn hapus i ateb eich cwestiynau ynglyn â dylunio gwefannau yng Nghymraeg neu Saesneg, beth bynnag sydd orau gennych.
Diolch am yr adolygiad Cymru'r Gyfraith
"Mae Cymru’r Gyfraith wrth ei fodd gyda'r gefnogaeth a'r cyngor a gafwyd gan y tîm yn Delwedd wrth ddatblygu gwefan gwbl ddwyieithog wedi'i hailgynllunio a'i hehangu'n fawr. Mae'r sylwadau a dderbyniwyd ers y lansiad i gyd wedi bod yn ffafriol iawn ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda Delwedd."
Rydym yn ôl yn y swyddfa heddiw ac yn edrych ymlaen at gydweithio gyda'n holl gwsmeriaid unwaith eto yn 2022!
Llongyfarchiadau mawr i Aled & Casi ar enedigaeth eu mab, Twm Alun.
Edrychwn ymlaen at gyfarfod Twm!
Dyma oriau agor Delwedd ar gyfer y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd:
Byddwn yn cau am 12:00 Dydd Iau, 23/12/21. Swyddfa ar gau tan Ddydd Iau 06/01/2022.
Diolch yn fawr iawn am eich cwsmeriaeth a chefnogaeth yn ystod y flwyddyn oddi wrth bawb yn Delwedd.
Rydym yn falch iawn o groesawu Jason Pritchard fel aelod newydd o dîm Delwedd!
Croeso cynnes i Jason - edrychwn ymlaen at gydweithio gyda ti!
Ar Ddydd Sul 05/09/21 fe wnaeth Aled Roberts o Delwedd redeg hanner marathon Leeds gyda'i ffrindiau Shaun Holdsworth ac Euros Rees. Maen nhw yn codi arian at MNDa er cof am Meic Roberts a Jacqueline Pugh, ac wedi llwyddo i hel dros £2,500 hyd yn hyn. Llongyfarchiadau Aled a'r hogiau, gwych!
Os hoffech noddi nhw, dilynwch y linc: https://www.justgiving.com/fundraising/shaunholdsworth
Heddiw yw diwrnod olaf Jordan gyda ni yn Delwedd. Diolch i ti am dy holl waith caled dros y 3 mlynedd diwethaf, fe fydd yna golled ar dy ôl di! Dymunwn bob lwc i ti yng Nghaerdydd!
Diolch i bawb sydd wedi ceisio am ein swyddi gwag, byddem mewn cysylltiad yn yr wythnosau nesaf.
Diolch am yr adolygiad Ysgol Sefydledig Caergeiliog:
"Gofynodd yr ysgol imi gynllunio gwefan newydd i’r ysgol ac roeddwn yn teimlo fod hyn yn gyfrifoldeb fawr gan fod yn rhaid imi ddewis cwmni dibynadwy a oedd ag enw da iddo. Treuliais amser maith yn edrych ar ystod eang o wefannau a oedd wedi eu creu gan gwmnïau amrywiol. Wedi cryn waith ymchwil nid oedd amheuaeth yn fy meddwl mai gwaith Delwedd oedd yn sefyll allan ac felly cysylltais â’r cwmni. O’r funud gyntaf teimlais yn ran o’r tîm a oedd yn mynd i greu gwefan i’r ysgol. Cefais fod yn rhan o’r ymgynghori bob cam o’r daith a’r berthynas rhwng Delwedd a minnau yn parhau i fod yn broffesiynol a chyfeillgar hyd ddiwrnod y lansio.
O’r dechrau i’r diwedd bu’r broses o greu gwefan newydd i Ysgol Caergeiliog yn un bleserus, rhwydd, fforddiadwy a dymunol. Nid oedd dim yn ormod ganddynt. Edrychaf ymlaen i gydweithio â hwy i’r dyfodol wrth inni ddiweddaru’r wefan. Mae ein diolch fel ysgol i’r cwmni yn fawr."
Am fwy o wybodaeth am ein Swydd Wag Datblygwr Meddalwedd / Datblygwr y We, cliciwch yma.
Am fwy o wybodaeth am ein Swydd Wag Is-ddatblygwr Meddalwedd / Is-ddatblygwr y We, cliciwch yma.
Am fwy o wybodaeth am ein Swydd Wag Cynorthwyydd Gwe, cliciwch yma.
Heddiw mae Delwedd yn dathlu ei Ben-blwydd yn 23 oed!
Yn 2020, fe wnaethom lansio 46 gwefan newydd! I weld esiampl o'n gwaith, cliciwch yma.
Chwilio am wefan newydd yn 2021? Cysylltwch â ni
Llongyfarchiadau mawr i Ceri a'i phartner Sam ar enedigaeth eu fab, Morgan Michael Garrod. Edrychwn ymlaen at gyfarfod Morgan!
Llongyfarchiadau mawr i aelod o'r tîm Jemma a'i phartner Mike ar enedigaeth eu merch, Leia Fflur Jones. Edrychwn ymlaen at gyfarfod Leia!
Rydym yn falch iawn o groesawu Beca Fflur fel aelod newydd o dîm Delwedd!
Croeso cynnes Beca - edrychwn ymlaen at gydweithio gyda thi!
Ein gwefan gyntaf ar gyfer cwsmer yn Affrica!
Yn ddiweddar lansiwyd gwefan ymatebol newydd ar gyfer Cape Fox Tours and Photography, ein cwsmer gyntaf yn Affrica.
Dros y penwythnos roeddem yn dathlu penblwydd Delwedd yn 22 mlwydd oed!
Diweddariad pwysig - Mae gennym rif ffôn newydd:
01286 727 227
Gan ein bod ychydig o wythnosau i mewn i'r flwyddyn newydd bellach, roeddem yn meddwl y byddai'n gyfle i ni edrych yn ôl dros ein llwyddiannau yn 2019, sy'n cynnwys:
Oherwydd galw cynyddol, rydym nawr yn cynnig y gwasanaethau ychwanegol canlynol:
Os oes angen help arnoch gyda'ch gwefan, neu unrhyw un o'r gwasanaethau uchod, cysylltwch â ni.
Cawsom fis Tachwedd prysur iawn yma yn Delwedd wrth i ni lansio 10 gwefan newydd!
Peidiwch â cholli allan ar ein cylchlythyrau misol i’n cwsmeriaid, gyda chyngor, awgrymiadau a gwybodaeth ddefnyddiol ar sut i wneud y gorau o'ch gwefan!
⠀
I danysgrifio, cysylltwch â ni.
Ein 'Gwefan Rhad Ac Am Ddim Ar Gyfer Achos Da Lleol' eleni bydd i Clwb Pêl Droed Waunfawr. Edrychwn ymlaen at gyd-weithio gyda'r Beganifs!
Rydym yn falch iawn o allu parhau â'n cefnogaeth i achosion da lleol trwy ddylunio, adeiladu a chynnal un wefan yn rhad ac am ddim ar gyfer achos da lleol bob blwyddyn.
Roeddem yn gollwng iPads yn Amgueddfa'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yng Nghastell Caernarfon wythnos yma, gydag ap newydd a ddatblygwyd gennym ar eu cyfer.
Mae hyn yn rhan o'u prosiectau "Wynebau'r Milwyr a Gollwyd" a "Y Cyfan Sydd ar Ôl" am Filwyr y Rhyfel Byd Cyntaf, prosiectau cyffrous a diddorol iawn i weithio ar - gobeithiwn eu bod yn adnoddau amhrisiadwy!
Mae'r wybodaeth hefyd ar gael ar y wefan, i'w weld ar-lein cliciwch isod:
Dyma ddywedodd Amgueddfa RWF:
The Royal Welch Fusiliers Regimental Museum have used Delwedd to design, build and maintain the Museum’s website. The team at Delwedd provide an exceptional service, their web designers listened carefully to our brief and worked very closely with us to achieve an outstanding result. Most recently we have worked with Delwedd in developing two databases for our website and accompanying apps for the Museum. Faces or the Fallen, a database of over 2,600 photographs of Royal Welshmen who made the ultimate sacrifice in the First World War. All That Is Left of Them is a developing database of photos of Royal Welchmen who served in the Regiment and survived the First World War. These are unique facilities for any Regimental Museum and Delwedd have been instrumental in bringing these world class facilities to an international audience.
Rydym yn falch iawn o groesawu Casi Roberts fel aelod newydd o dîm Delwedd!
Croeso cynnes Casi - edrychwn ymlaen at gydweithio gyda thi!
Diolch am yr adolygiad Bwch yn Uchaf:
"We can't thank you and your staff enough for a new website! It's nice to see it has a professional, modern look and it actually works with mobile phones!"
Daeth Beca, sy'n ddisgybl mewn ysgol leol, atom ar brofiad gwaith wythnos diwethaf. Roedd yn braf dy gyfarfod, a diolch yn fawr am dy waith caled Beca!
Rydym wedi cael wythnos brysur yn cefnogi Gwyl Y Felinheli!
Byddom yn tynnu lluniau'r digwyddiadau a diweddaru'r wefan iddynt dros wythnos yr wyl. Llongyfarchiadau i chi am wythnos lwyddiannus eto eleni!
Cliciwch yma i weld y lluniau.
Rydym wedi cael disgybl o ysgol leol yn y swyddfa ar brofiad gwaith wythnos yma - diolch yn fawr am dy holl waith Ioan, gobeithio dy fod wedi mwynhau!
Heddiw yw diwrnod olaf Ifan gyda ni yn Delwedd. Diolch i ti am dy holl waith caled dros y 4 mlynedd diwethaf a hoffem ddymuno pob lwc i ti i'r dyfodol!
Yn 2018 fe lansiodd Delwedd 73 o wefannau newydd, cymerwch olwg isod!
Angen gwefan newydd ar gyfer eich busnes neu fudiad? Cysylltwch â ni!
Rydym wedi cael disgybl o ysgol leol yn y swyddfa ar brofiad gwaith wythnos yma - diolch yn fawr am dy holl waith caled Beth!
Noson wych yn Wobrau Busnes Y Daily Post neithiwr!
Nid oeddem yn llwyddiannus y tro hwn ond rydym yn falch iawn o fod wedi gwneud y rhestr fer.
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod ar y rhestr fer ar gyfer gwobrau'r Daily Post eleni!
Edrychwn ymlaen at fynd i’r seremoni gwobrwyo mis nesaf.
Fe wnaethom lansio 35 gwefan newydd yn 2017...yr wythnos hon fe lansiwyd ein 53fed wefan newydd o 2018!
Hapus i gael 20fed mlynedd prysur iawn mewn busnes!
Ein gwefan ‘Rhad Ac Am Ddim Ar Gyfer Achos Da Lleol ‘ yn 2018 yw gwefan Ymddiriedolaeth Cofio Robin.
Roedd Robin Llyr Evans o Lanbedrog yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Loughborough yn 2015, ac fel rhan o'i gwrs bu’n gweithio mewn stadiwm denis yn China. Yn drist iawn cafodd ei ladd mewn damwain yno, ac roedd ei deulu yn credu ei bod hi'n ffordd dda o gofio amdano drwy helpu pobl ifanc eraill i ddatblygu eu gyrfa ym myd chwaraeon.
Mae Katie wedi bod yn y swyddfa gyda ni ar brofiad gwaith dros yr wythnosau diwethaf.
Diolch am dy holl waith, mae wedi bod yn bleser dy gael ti yma a dymunwn bob lwc i ti i'r dyfodol!
Rydym yn falch iawn o groesawu Jordan Elias fel aelod newydd o dim Delwedd.
Mae Jordan eisoes wedi setlo i mewn i dda ac edrychwn ymlaen i gydweithio gydag ef dros y misoedd nesaf.
Bu sôn am Ddelwedd mewn erthyglau yn y Daily Post ac ar Wales 247 yn ddiweddar, yn ymwneud a'r wefan newydd dwyieithog y gwnaethom greu ar gyfer Sional. Mae hi wedi bod yn bleser cydweithio gyda Sional, ac edrychwn ymlaen at ddatblygu'r wefan ymhellach gyda hwy yn y dyfodol.
Cliciwch yma i ddarllen yr erthygl ymddangosodd yn y Daily Post
Cliciwch yma i ddarllen yr erthygl ar Wales 247
Yn ddiweddar fe lansiodd Delwedd wefan yn Rhad Ac Am Ddim ar gyfer Grŵp Gogledd Orllewin Cymru o'r Gymdeithas Clefyd Motor Niwron.
Buom yn cydweithio yn agos gyda'r grŵp i greu gwefan ddefnyddiol a hygyrch ar gyfer y rhai sy'n byw gyda CMN yn yr ardal, eu gofalwyr, eu teuluoedd a'u ffrindiau. Rhan bwysig o gyflawni'r nod yma oedd creu gwefan ddwyieithog, gyda'r cynnwys ar gael yn llawn yng Nghymraeg ac yn Saesneg.
Wythnos brysur o'n blaen yn tynnu lluniau yn Gŵyl Y Felinheli.
Edrychwn ymlaen at wythnos brysur yn llawn hwyl yn eu cefnogi eto eleni!
Dymunwn bob hwyl i bawb sy'n rhan o drefnu'r digwyddiadau gwych yma!
Rydym yn dathlu yn y swyddfa heddiw gan fod Jemma wedi bod yn gweithio hefo ni ers 10 mlynedd!
Diolch i ti am dy holl waith caled dros y blynyddoedd!
Fel mae nifer ohonoch yn ymwybodol, mae Delwedd yn falch iawn o allu cefnogi achosion da lleol drwy ddylunio, adeiladu a chynnal un wefan yn rhad ac am ddim ar gyfer achos da lleol bob blwyddyn.
Rydym yn lansio ein Cystadleuaeth Gwefan Am Ddim ychydig yn gynharach eleni gan ein bod wedi cael ychydig o ymholiadau am y fenter hon yn barod, ac mae ein hamserlen waith yn llenwi'n gyflym, rydym yn falch o ddweud!
Hyd yn hyn yn 2018 rydym wedi rhoi 11 gwefan newydd sbon yn fyw, dechrau addawol iawn i'r flwyddyn newydd! Un o’r rhain oedd ein "Gwefan Yn Rhad Ac Am Ddim Ar Gyfer Achos Da Lleol" 2017, sef y Grwp Gogledd Orllewin Cymru o'r Gymdeithas Clefyd Motor Niwron. Mae'r wefan wedi ei greu i gyd-fynd a "Branding" yr elusen, ac yn gwbl ddwyieithog.
Nod y wefan yw peidio ag ailadrodd y wybodaeth ar y brif wefan MNDA, ond yn hytrach y bydd yn ddefnyddiol fel adnodd ychwanegol iddynt. Bydd yn canolbwyntio ar adnoddau a chynigion codi arian Gogledd Orllewin Cymru ac yn gobeithio bod yn ffynhonnell gymorth yn lleol.
Gweler y wefan yma: www.mndnorthwestwales.org
Lansiodd y grwp y wefan yn eu cyfarfod misol, ac maent yn falch iawn ohono. Dywedodd Kevin Thomas, Ymgynghorydd Datblygiad Gofal Rhanbarthol, "Mae'n edrych yn ffantastig. Da iawn a diolch yn fawr i'r tîm yn Delwedd. Mae'r safle yn gyfeillgar ac yn groesawgar i ddefnyddwyr".
Rydym ni fel cwmni yn falch iawn o allu noddi'r wefan yma ac yn gobeithio bydd yn adnodd defnyddiol iawn i'r elusen er mwyn codi arian ac ymwybyddiaeth. Hefyd gobeithiwn y bydd yn gymorth i'r unigolion â Chlefyd Niwron Modur a'u teuluoedd.
Fe aeth Jen, Aled & Ceri o'r cwmni i lawr i Gaerdydd ar gyfer gwobrau FSB Cymru. Roeddem wedi ein henwebu yn y categori "Welsh in Business". Er nad oeddem yn llwyddiannus ar y diwrnod, rydym yn falch iawn o gyrraedd y rhestr fer o 3 trwy’r wlad.
Mae gennym ni newyddion cyffrous i gychwyn y flwyddyn newydd yma yn Delwedd.
Rydym yn falch iawn o gyrraedd y rhestr fer yng ngwobrau FSB Awards, yn y categori “Welsh in Business”. Edrychwn ymlaen at fynd i’r seremoni gwobrwyo mis nesaf. Dechrau gwych i 2018!
Cyhoeddiad COVID-19
Hoffem eich sicrhau y bydd Delwedd yn parhau i fod ar agor. Rydym ni’n fusnes digidol, ac felly fe allwn weithio o bell pan fo angen.
Diolch yn fawr,
Aled, Ceri, Jemma, Casi, Jordan, Beca & Jason