Cronfa Gymunedol Delwedd

Cronfa Gymunedol Delwedd

Ers i Delwedd gael ei sefydlu yn 1998 gan Michael Roberts (Meic), mae cefnogi'r gymuned leol wedi bod yn bwysig iawn i ni.

Yn flaenorol, rydym wedi bod yn cynnig gwefan yn rhad ac am ddim ar gyfer achos da lleol bob blwyddyn. Rhai esiamplau o’r gwefannau yma ydi Gafael Llaw, Cofio Robin, Menter Cymunedol Bethel, CPD Tref Caernarfon, Gŵyl Y Felinheli a’r Grŵp Cefnogi Cymdeithas Clefyd Motor Niwron yng Ngogledd Orllewin Cymru.

Rydym yn dal i noddi a chefnogi'r rhain, a mwy, gyda rhai ohonynt wedi ail wampio ei gwefan nifer o weithiau dros y blynyddoedd, heb gost ychwanegol.

Erbyn hyn, yn hytrach na chreu gwefan am ddim, rydym wedi penderfynu creu Cronfa Gymunedol Delwedd, er cof am Meic. Roedd yn credu mewn prosiectau cymunedol a gwnaeth gymaint i’w gymuned leol cyn bu farw yn 2017.

Y bwriad drwy greu’r gronfa ydi ein galluogi i gefnogi hyd yn oed mwy o bobl yn yr ardal.

Mae gennym bot o arian i'w rannu rhwng mudiadau, timau neu brosiectau lleol, felly os rydych yn chwilio am arian i’ch cymdeithas, rydym eisiau clywed gennych chi.

Rydym yn bwriadu ariannu yn gyfan gwbl neu i wneud cyfraniad tuag at unrhyw beth o noddi cit tim chwaraeon i arian tuag at diffibriliwr, offer newydd i’ch clwb neu fudiad, noddi digwyddiad, neu unrhyw beth yn y canol!

Y Gofynion:

Dylai eich cais gynnwys dadansoddiad o sut bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio a sut y bydd o fudd i’r gymuned leol.

E-bostiwch eich cais i cymunedol@delwedd.co.uk

Dyddiad Cau 2024: 30/06/2024