Adborth Cleientiaid

"Cydweithiodd Cymdeithas Hanes Teulu Gwynedd gyda Delwedd i ddylunio, datblygu a chreu ein gwefan gwbl ddwyieithog newydd. Gweithiodd Aled a'r tîm yn glos gyda ni i ddatblygu ein briff a darparwyd cyngor a chefnogaeth ddefnyddiol i gyflawni canlyniad rhagorol. Mae adborth gan yr aelodau wedi bod yn gadarnhaol iawn ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda Delwedd yn y dyfodol."

Cymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd

“Roedd y broses o greu gwefan gyda cwmni Delwedd yn bleser. Roedd eu harbennigedd a'u hymrwymiad i wireddu ein gwefan delfrydol yn arbennig. Rydym yn falch iawn o'r gwefan gorffenedig, mae'n glir, dwyieithog ac yn ei gwneud hi'n hawdd i ni gydymffurfio efo'r holl ofynion cyfreithiol sydd ar Gynghorau Tref a Chymuned i gyhoeddi dogfennau a sicrhau trylowyder y broses ddemocrataidd.”

Cyngor Tref Caernarfon

"Mae Cymru’r Gyfraith wrth ei fodd gyda'r gefnogaeth a'r cyngor a gafwyd gan y tîm yn Delwedd wrth ddatblygu gwefan gwbl ddwyieithog wedi'i hailgynllunio a'i hehangu'n fawr. Mae'r sylwadau a dderbyniwyd ers y lansiad i gyd wedi bod yn ffafriol iawn ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda Delwedd."

"Gofynodd yr ysgol imi gynllunio gwefan newydd i’r ysgol ac roeddwn yn teimlo fod hyn yn gyfrifoldeb fawr gan fod yn rhaid imi ddewis cwmni dibynadwy a oedd ag enw da iddo. Treuliais amser maith yn edrych ar ystod eang o wefannau a oedd wedi eu creu gan gwmnïau amrywiol. Wedi cryn waith ymchwil nid oedd amheuaeth yn fy meddwl mai gwaith Delwedd oedd yn sefyll allan ac felly cysylltais â’r cwmni. O’r funud gyntaf teimlais yn ran o’r tîm a oedd yn mynd i greu gwefan i’r ysgol. Cefais fod yn rhan o’r ymgynghori bob cam o’r daith a’r berthynas rhwng Delwedd a minnau yn parhau i fod yn broffesiynol a chyfeillgar hyd ddiwrnod y lansio.
O’r dechrau i’r diwedd bu’r broses o greu gwefan newydd i Ysgol Caergeiliog yn un bleserus, rhwydd, fforddiadwy a dymunol. Nid oedd dim yn ormod ganddynt. Edrychaf ymlaen i gydweithio â hwy i’r dyfodol wrth inni ddiweddaru’r wefan. Mae ein diolch fel ysgol i’r cwmni yn fawr."

Ysgol Sefydledig Caergeiliog

Dwi wedi gwirioni gyda'r Wefan diolch yn fawr iawn i chi gyd.

Diolch o galon i chi gyd am eich gwaith bendigedig!

Mari, Gwasanaeth Ysgolion William Mathias

Y wefan yn gweithio yn wych...mae'n debyg fod canran uchel iawn iawn o bobl yn dod trwy'r wefan os nad pob un.

Carol, Carrog

Rydym yn hynod falch o wefan yr ysgol, ac mae sylwadau y rhieni a'r disgyblion bob tro mor gadarnhaol. Maent wrth eu boddau yn edrych ar eu lluniau ar y wefan - mae'n gyfle bendigedig i rannu newyddion yr ysgol a phrofiadau di ri sydd yn digwydd yn Ysgol Llanllechid.

Huw Edward Jones, Ysgol Llanllechid


Ysgrifennaf atoch ar ran Côr Meibion Caernarfon i gyfleu ein gwerthfawrogiad am y gwaith sylweddol rydych wedi ymgymryd ag dros y misoedd diwethaf.

Aled Evans, Côr Meibion Caernarfon

Diolch o galon am y gwaith ar y wefan. Mae’n edrych yn wych, ac yn hawdd ei deall. Gwych.

Arfon, Cymdeithas Cerdd Dant

Rydym yn hynod o hapus gyda'r gwasanaeth a gawn gennych ac mae llawer iawn o bobl wedi canmol ein gwefan dros y misoedd diwethaf.

Ysgol Abererch