Rydym wedi ein lleoli yng Ngogledd Cymru ond mae ein cwsmeriaid wedi’u lleoli ar draws ardal ddaearyddol eang, mewn lleoliadau amrywiol ar hyd a lled y DU ac Ewrop. Yn ogystal â hyn, mae ein cwsmeriaid yn cwmpasu nifer o sectorau gwahanol. Mae croeso i chi edrych ar ein portffolio ar-lein.
Rydym yn ymfalchïo’n fawr yn ein henw da ac ansawdd y gwasanaethau rydym yn eu darparu – am brisiau cystadleuol iawn. Ein polisi yw darparu “gwefannau sy’n gweithio” – gwefannau sydd wedi’u dylunio’n broffesiynol gyda’r cwmpas mwyaf. Rydym yn credu ein bod yn llwyddo yn y nod hwn, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr argymhellion gan ein cwsmeriaid a’r atgyfeiriadau rydym wedi’u derbyn.
Cafodd cwmni Delwedd ei sefydlu ym 1998, a daeth yn gwmni cyfyngedig ym mis Hydref 2016. Rydym yn gwmni dylunio gwefannau o Gaernarfon, sy’n arbenigo mewn creu gwefannau proffesiynol, effeithiol a llwyddiannus am brisiau fforddiadwy a chystadleuol. Rydym yn cynnig ystod eang o wasanaethau er mwyn cyflawni anghenion busnes ein cleientiaid, a gwneud yn siŵr bod eu gwefan yn weladwy ar draws yr ystod amrywiol o ddyfeisiadau sydd ar gael yn awr ar y farchnad. I ganfod mwy am yr hyn yr ydym yn ei wneud a sut yr ydym yn gwneud hyn, cliciwch yma.