Beth Rydym Yn Ei Wneud

Rydym yn gwmni dylunio a datblygu gwefannau o Gaernarfon yng Ngwynedd. Ein prif fusnes yw dylunio gwefannau proffesiynol, effeithiol a llwyddiannus am brisiau cystadleuol.

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cael gwefan, yn arbennig yn ein hardal leol ni yma yng Ngogledd Cymru. P’un a ydych yn gwmni bach newydd neu’n gwmni sefydledig, mae presenoldeb ar y we yn hollbwysig. Mae’n golygu eich bod ar gael 24/7 i’ch cleientiaid presennol, ac yn cyflwyno’r cyfle i ddenu cleientiaid newydd, ac ehangu eich darpar gynulleidfa.

Mae gennym dros un ac ugain mlynedd o brofiad o ddylunio a chreu gwefannau llwyddiannus iawn i bobl ar draws nifer o sectorau gwahanol.

Daw’r mwyafrif o’n busnes newydd drwy argymhellion ar lafar ac argymhellion cwsmeriaid, rhywbeth yr ydym yn falch iawn ohono oherwydd mae’n golygu ein bod yn gwneud pethau’n iawn! I weld sylwadau rhai o’n cleientiaid bodlon, ewch i’n tudalen tystebau.

Gellir priodoli ein llwyddiant fel cwmni dylunio gwefannau i raddau helaeth i’n gallu i ddarparu ateb cyflawn, o ddylunio i gyhoeddi a thu hwnt. Rydym yn cyflawni hyn drwy ein gallu i gyflawni pob un o’r tasgau sy’n gysylltiedig â datblygu gwefan ddeinamig, fodern ac ymatebol.

I gyflawni’r dasg hon rydym yn cynnig gwasanaethau arbenigol amrywiol sy’n gallu cynnwys:

Gwefannau Ymatebol:

Mae gwefan ymatebol yn wefan sy’n addasu ei chynllun yn ôl y ddyfais sy’n cael ei defnyddio. Mae nifer gynyddol o bobl yn defnyddio dyfeisiadau symudol yn awr i ddefnyddio’r rhyngrwyd. Gyda ffigurau diweddar yn datgan bod dros hanner yr holl chwiliadau yn dechrau ar ddyfais symudol, mae’n bwysicach nac erioed sicrhau bod eich gwefan yn ymatebol a’i bod ar gael ar bob dyfais.

Yn ogystal â hyn, o 21ain Ebrill 2015, mae Google wedi diweddaru eu halgorithm chwilio, er mwyn i wefannau ymatebol gael eu graddio yn fwy ffafriol wrth chwilio ar Google gan ddefnyddio dyfeisiadau symudol. Mae gwybodaeth bellach ar gael ar hyn yma.

Er bod ein gwefannau wedi gweithio bob amser ar bob dyfais, mae’r tuedd diweddaraf hwn o wefannau ymatebol yn ei gwneud yn haws i’r defnyddiwr symud o amgylch eich safle ar y ddyfais o’ch dewis.

Oherwydd hyn, mae pob gwefan yr ydym wedi’u creu ers i’r dechnoleg hon gael ei chyflwyno wedi bod yn gwbl ymatebol, ac mae pob gwefan newydd yr ydym yn eu creu yn cael eu dylunio fel hyn o’r cam cyntaf. Rydym yn deall bod gwefan sy’n ymddangos yn ddeniadol a phroffesiynol yn hollbwysig er mwyn i’ch busnes fod yn drawiadol, ac rydym yn credu bod hyn yn cyd-fynd ag ymarferoldeb y wefan a phrofiad y cwsmer.

Cynnal a Chadw a Diweddaru eich Gwefan:

Mae gennym nifer o opsiynau cynnal a chadw gwahanol ar gael, yn cynnwys opsiwn i ddiweddaru’r wefan eich hun:

  1. Gwefan lle byddwch yn anfon eich newidiadau atom drwy e-bost. Bydd unrhyw newidiadau a dderbynnir cyn 12pm yn cael eu cyflawni o fewn 24 awr (Dydd Llun – Dydd Gwener). Manteision hyn yw y bydd eich gwefan yn cael ei diweddaru gan ddefnyddio ein meddalwedd arbenigol ar gyfer dylunio gwefannau, a bydd pob ffeil a delwedd yn cael eu hoptimeiddio i’w defnyddio ar y we, yn ogystal â sicrhau’r perfformiad gorau gyda Pheiriannau Chwilio.
  2. System Rheoli Cynnwys, lle gallwch olygu cynnwys eich gwefan eich hun.
  3. Cyfuniad o 1 a 2 lle bydd rhai o’r tudalennau nad ydych yn credu y bydd angen eu newid ar frys yn cael eu diweddaru gan staff Delwedd, ond gallwch chi barhau i ddiweddaru rhannau eraill o’r wefan eich hun.

Os hoffech drafod unrhyw un o’r opsiynau hyn, mae croeso i chi gysylltu â ni

Siopau Ar-lein

Gallwn ddarparu gwefannau e-fasnach pwrpasol sy’n eich galluogi i ddiweddaru eich cynnyrch a’ch prisiau chi; edrych ar archebion a’u diweddaru a derbyn nifer o ddulliau talu amrywiol.

Rydym hefyd yn cynnig system basged siopa ddwyieithog, a ni yw un o’r cwmnïau cyntaf yng Nghymru i ddarparu profiad siopa Cymraeg cyflawn i’ch defnyddwyr.

Ar-lein, mae “ffenestr siop” pawb yr un maint. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol i siopau llai, sy’n newid y farchnad bosibl ar unwaith o un lleol i un genedlaethol neu hyd yn oed ryngwladol.

Datblygu Systemau:

Gallwn ddatblygu cronfeydd data pwrpasol ar gyfer eich anghenion penodol chi, ac rydym wedi datblygu systemau llwyddiannus i wefannau Gwerthwyr Tai, Twristiaeth a Digwyddiadau.

Cysylltwch i weld beth y gallem ei wneud i chi.

Cofrestru ac Optimeiddio Peiriannau Chwilio:

Credwn fod gwefan dda yn cael ei gwastraffu os na all pobl ddod o hyd iddi, felly mae Optimeiddio Peiriannau Chwilio yn rhan bwysig o’r hyn a wnawn. Po uchaf yw eich safle ar beiriannau chwilio, po pwyaf o ymwelwyr a gewch i’ch gwefan, a allai arwain at gynnydd mewn gwerthiannau posibl neu ymholiadau. Rydym yn cynnig gwasanaeth optimeiddio peiriannau chwilio er mwyn sicrhau bod eich gwefan yn weladwy i ddarpar gwsmeriaid, a darparu tystiolaeth i chi o hynny.

Ffotograffiaeth:

Gall delweddau o safon uchel sicrhau bod eich safle yn fwy trawiadol na rhai eraill, ac mae hyn yn elfen bwysig ar gyfer creu’r math o argraff gyntaf yr ydych yn dymuno ei chreu. Gallwn ddefnyddio delweddau y byddwch chi’n eu darparu, neu gallwch ddewis delweddau o lyfrgell fawr o ddelweddau stoc, neu gallwn gynnig gwasanaeth ffotograffiaeth am ddim i chi. Byddwn yn defnyddio ein profiad a’n gallu creadigol i gyflwyno eich busnes, eich sefydliad neu eich llety gwyliau yn y ffordd orau bosibl.

Dwyieithog:

Mae pob aelod o staff Delwedd yn siaradwyr Cymraeg yn rhugl, sy’n golygu y gallwch gyfathrebu â ni yn eich dewis iaith chi. Yr ydym yn falch iawn yma, yn wahanol i nifer o ddylunwyr gwefannau eraill, ein bod yn gallu cynnig drych-ddelwedd Gymraeg o’ch gwefan, a hynny am ddim. Y cyfan sydd ei angen arnom gennych chi yw’r cynnwys, a gallwn ddarparu rhestr o gyfieithwyr i chi. Cliciwch yma, i gael gwybod mwy am y cynnig hwn, sydd wedi derbyn cefnogaeth gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg

Prisiau:

Mae’r prisiau yn amrywio i bob cwsmer unigol, oherwydd bod ein costau yn seiliedig ar swm y gwaith a wneir i gwblhau gwefan, a pha nodweddion/ymarferoldeb sydd eu hangen arnoch. Beth am gysylltu â ni i gael ymgynghoriad am ddim, i weld a allwn eich cynorthwyo gyda’ch gwefan newydd, neu drawsnewid eich gwefan bresennol?

Ein Proses / Sut rydym yn Gweithio: