"Diolch Delwedd am wasanaeth 5 seren. Rydym wrth ein boddau gyda'r wefan newydd yma yn Ysgol Gynradd Nefyn!"
"Oh wow!!! Rhaid i mi gymryd eiliad i fynegi fy niolchgarwch dwys a chanmoliaeth i chi a’ch tîm am y wefan rhyfeddol rydych chi wedi’i chreu ar ein cyfer. Mae’n anhygoel gweld. Mae eich sylw i fanylion a'ch gallu i ddeall ein hanghenion unigryw yn arbennig."
"Mae gwasanaeth a gofal cwsmer Delwedd wedi bod yn wych drwy gydol y broses i ni ddylunio ein gwefan newydd.
Rydym yn hynod ddiolchgar i’r Tîm am eu gwaith arbennig yn cefnogi Menter Cymunedol Bethel a byddwn yn argymell unrhyw un i ddefnyddio Delwedd os yn chwilio am waith o safon!"
"Mae hi wedi bod yn bleser cyd weithio gyda Delwedd wrth greu ein safle we newydd. Mae'r broses wedi bod yn rhwydd o'r cychwyn i'r diwedd a ddim byd yn ormod o drafferth i Aled a'r tîm. Mae Delwedd wedi creu safle we newydd sy'n hawdd ei ddefnyddio a'i ddiweddaru. Roedd dewis cwmni lleol Cymraeg sy'n rhannu'r rhy'n ethos a ni yn bwysig iawn i ni. Mawr yw ein diolch!"
"Cydweithiodd Cymdeithas Hanes Teulu Gwynedd gyda Delwedd i ddylunio, datblygu a chreu ein gwefan gwbl ddwyieithog newydd. Gweithiodd Aled a'r tîm yn glos gyda ni i ddatblygu ein briff a darparwyd cyngor a chefnogaeth ddefnyddiol i gyflawni canlyniad rhagorol. Mae adborth gan yr aelodau wedi bod yn gadarnhaol iawn ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda Delwedd yn y dyfodol."
"Mae Cymru’r Gyfraith wrth ei fodd gyda'r gefnogaeth a'r cyngor a gafwyd gan y tîm yn Delwedd wrth ddatblygu gwefan gwbl ddwyieithog wedi'i hailgynllunio a'i hehangu'n fawr. Mae'r sylwadau a dderbyniwyd ers y lansiad i gyd wedi bod yn ffafriol iawn ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda Delwedd."
“Roedd y broses o greu gwefan gyda cwmni Delwedd yn bleser. Roedd eu harbennigedd a'u hymrwymiad i wireddu ein gwefan delfrydol yn arbennig. Rydym yn falch iawn o'r gwefan gorffenedig, mae'n glir, dwyieithog ac yn ei gwneud hi'n hawdd i ni gydymffurfio efo'r holl ofynion cyfreithiol sydd ar Gynghorau Tref a Chymuned i gyhoeddi dogfennau a sicrhau trylowyder y broses ddemocrataidd.”
"Dwi wedi gwirioni gyda'r Wefan diolch yn fawr iawn i chi gyd."
"O’r dechrau i’r diwedd bu’r broses o greu gwefan newydd i Ysgol Caergeiliog yn un bleserus, rhwydd, fforddiadwy a dymunol. Nid oedd dim yn ormod ganddynt. Edrychaf ymlaen i gydweithio â hwy i’r dyfodol wrth inni ddiweddaru’r wefan. Mae ein diolch fel ysgol i’r cwmni yn fawr."
Pwy Ydym Ni
Mae Delwedd yn gwmni dylunio gwefannau o Gaernarfon, sy’n arbenigo mewn creu gwefannau proffesiynol, effeithiol a llwyddiannus am brisiau fforddiadwy a chystadleuol. Rydym yn cynnig ystod eang o wasanaethau er mwyn cyflawni anghenion busnes ein cleientiaid, a gwneud yn siŵr bod eu gwefan yn weladwy ar draws yr ystod amrywiol o ddyfeisiadau sydd ar gael yn awr ar y farchnad.