Mae Delwedd yn gwmni dylunio gwefannau o Gaernarfon, sy’n arbenigo mewn creu gwefannau proffesiynol, effeithiol a llwyddiannus am brisiau fforddiadwy a chystadleuol. Rydym yn cynnig ystod eang o wasanaethau er mwyn cyflawni anghenion busnes ein cleientiaid, a gwneud yn siŵr bod eu gwefan yn weladwy ar draws yr ystod amrywiol o ddyfeisiadau sydd ar gael yn awr ar y farchnad.
"Roedd hi'n hyfryd gweithio gyda Delwedd i greu gwefan ar gyfer Sioned Williams AS. Daethant i fyny gyda dyluniad glân a phroffesiynol a llwyfan hawdd i weithio ag ef. Maent wedi bod yn barod iawn i helpu ac yn gyflym gydag unrhyw newidiadau neu broblemau yr ydym wedi dod ar eu traws. Byddwn yn eu hargymell yn fawr fel cwmni."
"O'r cychwyn cyntaf mae'r gwasanaeth wedi bod yn ardderchog. Dim byd yn ormod o drafferth, a staff yn dod nol atom yn syth, gwaith yn cael ei gwblhau yn sydyn, a safon y deunydd yn arbennig iawn."
"Mae ein profiad gyda Delwedd wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae Ceri wedi ein helpu i adeiladu gwefan hygyrch, trawiadol a hawdd ei ddefnyddio, ac mae tîm Delwedd i gyd yn ymatebol iawn pan fydd angen unrhyw help arnom ni."
"Gwasanaeth o safon! Roedd y tîm yn greadigol, yn gyfeillgar, ac yn effeithlon iawn. Mae ein gwefan yn edrych yn wych! Argymhellaf yn fawr!"
"Diolch Delwedd am wasanaeth 5 seren. Rydym wrth ein boddau gyda'r wefan newydd yma yn Ysgol Gynradd Nefyn!"
"Oh wow!!! Rhaid i mi gymryd eiliad i fynegi fy niolchgarwch dwys a chanmoliaeth i chi a’ch tîm am y wefan rhyfeddol rydych chi wedi’i chreu ar ein cyfer. Mae’n anhygoel gweld. Mae eich sylw i fanylion a'ch gallu i ddeall ein hanghenion unigryw yn arbennig."
"Mae gwasanaeth a gofal cwsmer Delwedd wedi bod yn wych drwy gydol y broses i ni ddylunio ein gwefan newydd.
Rydym yn hynod ddiolchgar i’r Tîm am eu gwaith arbennig yn cefnogi Menter Cymunedol Bethel a byddwn yn argymell unrhyw un i ddefnyddio Delwedd os yn chwilio am waith o safon!"
Pwy Ydym Ni