19.09.18 Gwefan Yn Rhad Ac Am Ddim Ar Gyfer Achos Da Lleol 2018

Ein gwefan ‘Rhad Ac Am Ddim Ar Gyfer Achos Da Lleol ‘ yn 2018 yw gwefan Ymddiriedolaeth Cofio Robin.

Roedd Robin Llyr Evans o Lanbedrog yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Loughborough yn 2015, ac fel rhan o'i gwrs bu’n gweithio mewn stadiwm denis yn China. Yn drist iawn cafodd ei ladd mewn damwain yno, ac roedd ei deulu yn credu ei bod hi'n ffordd dda o gofio amdano drwy helpu pobl ifanc eraill i ddatblygu eu gyrfa ym myd chwaraeon.

Cafodd elusen er cof am Robin Llyr Evans ei lansio ar Awst 31 i gynorthwyo unigolion o dan 25 oed yng Ngwynedd a Conwy gyrraedd Rhagoriaeth mewn Chwaraeon. Y person ifanc gyntaf i elwa o’r grant oedd Teleri Davies, 21 oed, o’r Bala.

Roedd Delwedd yn falch iawn o gael gweithio gyda rhieni Robin, Gareth a Menai ar y prosiect yma, dwedent nhw am y broses: “Roeddem wedi ein cyffwrdd gan haelioni Delwedd yn cytuno i ddarparu gwefan ar gyfer Ymddiriedolaeth Cofio Robin. Mae’r broses o gyd-weithio gydag Aled a Jemma wedi bod yn hynod broffesiynol a phleserus ac mae’r safle we yn edrych yn drawiadol. Diolch o galon Delwedd.

Bu Aled Roberts a Jemma Evans o’r cwmni yn y lansiad yng Nghanolfan Hamdden Glaslyn ym Mhorthmadog.

Fel bob gwefan rhad ac am ddim ar gyfer achos da, bydd Delwedd yn cadw eu gwefan am ddim, am byth.

Dymunwn yn dda i’r bobl ifanc fydd yn derbyn y grantiau ac wrth gwrs, i deulu Robin.

Cliciwch yma i ddychwelyd at ein prif dudalen newyddion.