Yn ddiweddar fe lansiodd Delwedd wefan yn Rhad Ac Am Ddim ar gyfer Grŵp Gogledd Orllewin Cymru o'r Gymdeithas Clefyd Motor Niwron.
Buom yn cydweithio yn agos gyda'r grŵp i greu gwefan ddefnyddiol a hygyrch ar gyfer y rhai sy'n byw gyda CMN yn yr ardal, eu gofalwyr, eu teuluoedd a'u ffrindiau. Rhan bwysig o gyflawni'r nod yma oedd creu gwefan ddwyieithog, gyda'r cynnwys ar gael yn llawn yng Nghymraeg ac yn Saesneg.
Yn ôl Cymdeithas CMN, dyma'r wefan gyntaf ar gyfer eu grwpiau a'u canghennau sydd yn ddwyieithog, ac maent yn cydnabod ei bwysigrwydd. Cynhwysir erthygl am wefan y Grŵp yn eu cylchgrawn chwarterol, 'Thumb Print.'.
Mae'r erthygl yn ymddangos yn ddwyieithog, a dyma'r tro cyntaf i erthygl Gymraeg ymddangos yn eu cylchgrawn cenedlaethol.
I weld yr erthygl yn llawn, cliciwch yma.
I weld cylchgrawn 'Thumb Print' diweddaraf ar-lein, cliciwch yma.
I weld gwefan Grŵp Gogledd Orllewin Cymru o'r Gymdeithas Clefyd Motor Niwron, cliciwch yma.