07.07.21 Datblygwr Meddalwedd / Datblygwr y We

Mae Delwedd yn Gwmni Dylunio Gwefannau o Gaernarfon. Sefydlwyd y Cwmni yn 1998, ac mae gennym ni bellach bortffolio o dros 350 o gwsmeriaid ar draws amrywiaeth o sectorau.

Rydym ni’n dîm ifanc, bach, ac yn chwilio am rywun i ymuno â ni i helpu gydag agweddau mwy technegol ar ein gwaith.

Bydd eich tasgau yn cynnwys / gallant gynnwys:

• Datblygu Systemau
• Datblygu Apiau ar gyfer dyfeisiadau symudol
• Gosod a Diweddaru System Rheoli Cynnwys (CMS)
• Profi Meddalwedd
• Cymorth Technegol
• Ysgrifennu Dogfennau Technegol

Byddwn ni’n darparu hyfforddiant, ond byddai gwybodaeth am y canlynol yn ddefnyddiol:

• PHP
• MySQL
• Apiau ar gyfer dyfeisiadau symudol
• Gosod a Rheoli E-bost

Gofynnol:

• Rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg
• Cyfforddus yn gweithio i derfynau amser
• Gallu i weithio’n dda mewn tîm yn ogystal ag yn annibynnol
• 3+ mlynedd o brofiad

Oriau: Llawn Amser / Rhan Amser (gellir negodi’r oriau)

Cyflog: £24,000 - £29,000. Gan ddibynnu ar Sgiliau a Phrofiad.

Lleoliad: Mae ein swyddfa yn y Galeri yng Nghaernarfon, Gogledd Cymru.

Dyddiad Cau: 04/08/2021

I geisio am y swydd, anfonwch lythyr cyflwyno a CV i post@delwedd.co.uk os gwelwch yn dda.

 

Cliciwch yma i ddychwelyd at ein prif dudalen newyddion.