Cystadleuaeth Gwefan am Ddim 2018

Cystadleuaeth Gwefan am Ddim -  Gwefan Yn Rhad Ac Am Ddim Ar Gyfer Achos Da Lleol

Fel mae nifer ohonoch yn ymwybodol, mae Delwedd yn falch iawn o allu cefnogi achosion da lleol drwy ddylunio, adeiladu a chynnal un wefan yn rhad ac am ddim ar gyfer achos da lleol bob blwyddyn. 

Ychydig o’r enillwyr blaenorol yw gwefan y Grwp Gogledd Orllewin Cymru o'r Gymdeithas Clefyd Motor Niwron, Gafael Llaw, Gwyl Bethel a nifer o wefannau eraill.

Mae ein cefnogaeth yn parhau ar gyfer y gwefannau hyn, gan eu cadw yn rhad ac am ddim cyhyd â'u bod gyda Delwedd.

Rydym yn dymuno pob llwyddiant iddynt yn y gwaith da y maent yn ei wneud.

Rydym yn lansio ein Cystadleuaeth Gwefan Am Ddim ychydig yn gynharach eleni gan ein bod wedi cael ychydig o ymholiadau am y fenter hon yn barod, ac mae ein hamserlen waith yn llenwi'n gyflym, rydym yn falch o ddweud!

Os ydych yn nabod achos neu fudiad da lleol yr ydych chi yn meddwl sy'n haeddu ennill y wobr, hoffwn glywed ganddynt. I geisio yn y gystadleuaeth cliciwch yma.

Dyddiad cau'r gystadleuaeth yw Dydd Gwener y 27ain o Ebrill, 2018.