11.08.17 Helpu Mentrau Bach a Chanolig i Fod yn Fwy Dwyieithog

Helpu Mentrau Bach a Chanolig i Fod yn Fwy Dwyieithog

Efallai eich bod wedi gweld y newyddion fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £400,000 i helpu mentrau bach a chanolig i fod yn fwy dwyieithog.

Rydym ni yn Delwedd yn croesawu’r newyddion yma, ac yn teimlo y bydd yn gefnogaeth gwerthfawr iawn i fusnesau bach a chanolig sydd yn defnyddio Cymraeg yn barod yn eu busnesau, a hefyd i’r rhai ohonoch y bysai’n hoffi cychwyn gwneud.

Yn dilyn y cyhoeddiad yma, hoffwn dynnu eich sylw at gynnig arbennig sydd gennym ni. Ers rhai blynyddoedd bellach, mae Delwedd wedi cynnig adeiladu a gosod i fyny fersiwn Gymraeg eich gwefan am ddim cost ychwanegol. Am fwy o wybodaeth ar y cynnig hwn, cliciwch yma.

Mae llawer o gwmnïau dylunio gwefannau eraill yn codi yn ychwanegol am adeiladu gwefan dwyieithog. Ond, rydym ni yn Delwedd yn teimlo ei fod yn bwysig fod cost ddim yn anghymhelliad rhag adeiladu gwefan dwyieithog. Yn enwedig, rydym yn credu ei fod yn bwysig cael yr iaith Gymraeg ar-lein, felly rydym yn hapus i allu gwneud hyn ychydig yn haws i’n cwsmeriaid.

Os hoffech chi drafod hyn ymhellach, croeso i chi gysylltu â ni.

Cliciwch yma i ddychwelyd at ein prif dudalen newyddion.