Gwefan Ysgol: Ysgol Llanbedrog

Y Cleient:

Mae Ysgol Llanbedrog wedi ei lleoli mewn pentref ym Mhen Llyn. Mae tua 80 o blant yn yr ysgol gyda tua chwarter ohonynt yn dod o gartrefi Cymraeg.

Y Briff:

Roedd Ysgol Llanbedrog eisiau gwefan i rannu gwybodaeth am yr ysgol i rieni, disgyblion a'r gymuned ehangach. Cyn hyn roedd Llawlyfr yr Ysgol a llythyrau yn ffordd o gyfathrebu ond teimla'r ysgol fod angen gwefan fodern, lliwgar i ddangos fod yr ysgol yn gymuned hapus a gofalgar sy'n darparu cyfleoedd gwerthfawr i’r plant. Hefyd, roedd angen i'r wefan fod yn llawn ymatebol gan fod llawer o'r rhieni yn mynd i fod yn cael mynediad i'r wefan drwy dabled neu ffôn symudol. Yn ogystal roedd Ysgol Llanbedrog yn awyddus i roi cyfle i'r gymuned allu noddi y wefan ar gyfer gwneud y wefan yn hunan gynhaliol.

Yr Ateb:

Rydym wedi datblygu gwefan sy'n galluogi y defnyddiwr i archwilio a phrofi yr hyn sy'n digwydd yn Ysgol Llanbedrog. Mae'r ffaith fod symud o gwmpas y wefan yn eglur a'r lluniau yn glir yn annog y defnyddwyr i bori drwy y wefan am wybodaeth. Mae tudalen Cysylltu gyda ffurflen gysylltu ar-lein yn ei gwneud yn hawdd i rieni gyfathrebu ac mae Ardal Ddiogel i Lywodraethwyr ar y gweill.

Ysgolion Eraill:

Mae gennym lawr o wefannau ysgolion yn ein portffolio ac mae ein blynyddoedd o gydweithio gydag ysgolion yn golygu ein bod yn deall eu hanghenion. Os oes gennych ddiddordeb cael gwefan newydd i'ch ysgol, cysylltwch er mwyn cael gwybod beth allwn ei wneud.